Mae carchar wedi bod yn fathodyn o anrhydedd i’r Cymry Cymraeg a fu’n gweithredu dros yr iaith. Fodd bynnag, i’r carcharor wedi ei gael yn euog o drosedd drwy rinwedd ei ddosbarth cymdeithasol - mae’n fater gwbl wahanol…
Heddiw fe es i, fy Nhad a fy merch un oed i, weld fy mrawd sydd yng ngharchar Caerdydd. Doedd dim ystafell aros i’w gael, ac oedd rhaid i tua 20 ohonom gan gynnwys sawl oedd yn dal babanod sefyll yn y glaw, yn aros er mwyn cael ein prosesu ar gyfer yr ymweliad. Daeth ein tro i gael ein cofrestru a’n harchwilio.
Wrth i’r ferch yn y dderbynfa rythu arnom ni, a mynnu ein manylion, yr oedd tinc sur yn ei llais. Yr oedd y gwaith papur cywir heb ei gyflawni er mwyn i fy merch ddod i’r ymweliad, felly yr oedd rhaid i mi a hithau fynd.
Yr ydym ni fel teulu wedi hen arfer efo heddlu a staff carchardai yn ein trin fel baw. Mae hyn yn rhywbeth mae’r Cymry dosbarth canol methu’n lan a chredu - wrth gwrs bydd y swyddogion yma yn broffesiynol.
Ar ôl blynyddoedd o ymweliadau carchar ffrindiau a theulu, fy mhrofiad gwirioneddol i yw bod teuluoedd carcharorion yn cael eu gweld fel estyniad o’r carcharor, sef baw isa’r domen.
Ar ôl i mi gyrraedd adref ces i alwad ffôn. Nid yn unig yr oedd fy Nhad heb gael mynd i weld fy mrawd, ond ar ôl ffrwgwd, yr oedd wedi cael “ban” o’r carchar ac felly ni fydd hawl ganddo ymweld â’i fab eto yng Ngharchar Caerdydd.
Yr oedd fy nhad wedi cynhyrfu drwy weddill y dydd. Erbyn yr hwyr y noson honno yr oedd wedi sadio digon i adrodd yr hanes i mi. Lol fiwrocrataidd, a system ddidrugaredd yn amddifad rhag gweld fy mrawd. Yr un hen ffars ffiaidd.
Treiddia’r cysyniad o ddial yn ddwfn i fer y bariau haearn. Y mae’r cysyniadau o “gyfiawnder” a “dial” yn gyfystyr yma. O’r gwleidyddion a biwrocrataidd sy’n gweini’r gyfundrefn i’r staff sy’n gwyned y cawellu - mae popeth wedi ei seilio ar gasineb dosbarth a dial. Cyflyrwyd pawb sy’n ymwneud a’r system garchar i ddad-ddyneiddio’r carcharorion a’u teuluoedd.
Be am y llofruddwyr a’r treiswyr meddai chi? Mae’r mwyafrif yn y carchar yno gan eu bod mewn gwendid meddyliol, neu’n gaeth i gyffuriau - yn debyg yn ddosbarth gweithiol ac wedi profi trais ofnadwy eisoes. Alla i ddim sôn am sefyllfaoedd eraill.
Mae’r dirmyg sydd i’w deimlo gan staff y carchardai tuag at y carcharorion a’u teuluoedd fel petai yn fersiwn grynodedig o rywbeth sydd yn bresennol ym mhob rhan o’r gymdeithas, y Gymdeithas “Gymreig” hefyd. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod y Cymry dosbarth canol yn gweld eu hunain fel pobl “flaengar”.
“Ydi dy frawd yn siarad Cymraeg?” gofynnodd gan edrych i fyw fy llygaid yn ‘Steddfod Meifod. Wrth gwrs, o’i bersbectif o mae’n debyg bod cael dy garcharu am rywbeth sydd ddim er budd y genedl yn anghymwys efo gallu siarad iaith bur y nefoedd.
“Baswn i ofn dy frawd tasa fo’n cerdded lawr y stryd tuag ata i sti!”
“Dwi angen mynd, oni’m yn dallt bod dy frawd yn dod ‘ma li”
Ac ymlaen ac ymlaen. O’r bachgen penfelyn oedd ofn y tywyllwch a bob tro’n gafael yn dynn yn ei dedi i anghenfil mae’n rhaid ei osgoi ar bob cyfrif. Mae pobol ei ofn o, a ma hyna’n torri fy nghalon.
Er bod ein holl hawliau fel siaradwyr Cymraeg yn deillio o weithredu uniongyrchol, a charchariad yr ymgyrchwyr - pam y snobyddiaeth ryfeddol hyn? Er i’r gymdeithas Gymraeg ddyrchafu aberth ein henwogion yn mynd i’r carchar, mae’r Cymry dosbarth gweithiol sydd yn gwario blynyddoedd dan glo yn cael eu gweld fel testun i’w ofni a’i hastudio. Yn rhaglen arwynebol ar y teledu neu’n nofel antur ffantiasiau maffiaidd y dosbarth canol.
Ystyriwn fyfyrwyr prifysgol Cymraeg eu hiaith er enghraifft, dwi’n cofio'r yn fy amser yn y Brifysgol, bu’r “Gymdeithas Gymraeg” yn cynnal crôl dafarndai “Ffiaidd”. Yma y bu plant dosbarth canol y genedl yn gwisgo fel eu cyfoedion oedd dal i fyw yn y Fro Gymraeg mewn Addidas, colur trwm a chlustdlysau mawr.
Mae hyd yn oedd can enwog Dderwyddon Dr Gonzo o’r cyfnod yma yn cynnwys y geiriau “chaviach, ti’n ffocin afiach”.
Er i’r genhedlaeth newydd “woke” wthio dros hawliau pobl o gefndiroedd gwahanol - dydi dosbarth ddim wedi bod yn rhan o hyn ar y cyfan. Mae’r syniad o amrywiaeth mewn sefydliadau wedi cymryd lle'r syniad o chwyldro economaidd-gymdeithasol.
Mae llenyddiaeth Gymreig llawn arwyr o’r dosbarth gweithiol “parchus”. Y tlawd haeddiannol. Y rhai sydd yn byw fel seintiau, yn gynnil a gofalus, yn gweithio’n ddiwyd ydi’r rhai sy’n deilwng o empathi a chymorth. Yn niwylliant poblogaidd Prydeinig gwelwn fod cymeriad rhinweddol yn amod o fod yn ddosbarth gweithiol er mwyn enyn unrhyw gydymdeimlad. Yn y ffilm “I, Daniel Blake” gan Ken Loach, mae’r cymeriad yn bron yn berffaith ac yn aml mae pobl. Y gwir ydi fod pobl sy’n byw dan bwysau parhaol tlodi yn byw bywydau mwy cymhleth na hyn.
***
Mae bron i dair blynedd wedi bod ers i mi ‘sgwennu’r ysgrif yma gyntaf. Ers hynny fe gafodd fy mrawd ei ryddhau ar ferchniaeth. Cafod fab. Mae dal yn aros i gael ei ddedfrydu - er ei fod eisiau pledio’n ddieuog, dwedodd ei gyfreithiwr gyda’i hanes troseddol doedd dim pwynt gwneud hynny. Pan nes i ei e-bostio, yn gwrtais gofyn y rhesymeg tu ôl i hyn ac os yr oedd hi wedi gweithredu ar sicrhau tystiolaeth a fyddai o ddefnydd i’m mrawd yn ei achos llys - y diwrnod cyn yr oedd am ymddangos yn y llys, fe ddwedodd na fydd hi yn fodlon ei gynrychioli. Gan ein gyrru ni gyd i banig llwyr.
Gwelodd fy merch i ei Mam yn udo crio ar y llawr. A finnau’n meddwl fod fy e-bost wedi gadael fy mrawd heb gyfreithiwr, a’i gondemnio i wynebu carchar eto ond heb unrhyw gefnogaeth gyfreithiol.
Dwi wedi blino. Alla i ddim ymdopi efo’r modd mae’r system yma yn fy nhrin, a 'sgen i ddim syniad sut i gefnogi fy mrawd mwy. Gwywo gwnaeth fy holl nerth i gwffio ar ol cywilydd yma o dorri lawr tu hwnt i unrhyw reloaeth o flaen fy mhlentyn. Blynyddoedd o gwffrio biwrocrasi treisgar y gyfraith ac argyfyngau byw neu farw fy mrawd wedi deud arnaf.
Mae dosbarth yng Nghymru yn gysyniad wedi ei dirlenwi ag ystrydebau du a gwyn.
Fe aeth fy mrawd i’r carchar am y tro cyntaf yn 19 oed. Yr oedd rhesymau strwythurol tu ôl i lwybr cythryblus ei fywyd. Pe bai cefnogaeth a chariad gan gymunedau tuagat teuluoedd mewn traffeth, pwy a ŵyr pa mor wahanol base ein bywydau ni gyd. Mae’r ffurf draddodiadol o gymuned yn diflannu. Gwnaeth Raymond Williams ‘sgwennu am hyn nol yn y 70’au - ond bydd ffurfiau newydd o gymuned yn codi yn ei dyb ef. Ar hyn o bryd dwi’n teimlo’n alltud o’r diwylliant Cymraeg ei hiaith. I’r fath raddau mai prin yr ydw i’n sgwennu yn fy mamiaith.
Mae temtasiwn i orfodi gobaith i gloi bob ysgrif - ond mae casglad y sefyllfa yma dal tu hwnt i’m gafael. Gadawaf yn ei le ofod i chi, y darllenydd ystyried sut mae’r hyn dwi’n ei ddweud yn gwneud i chi deimlo.
Ydych chi yn fy nghredu i?
Yn fy amau i?
Ydych chi’n flin? Yn teimlo trueni drostaf?
Ar pwy, neu be mae’r bai? Y cyfrifoldeb?
Be ydi’r ateb?